Yr Eneth Ga'dd Ei Gwrthod
(The Rejected Maiden)
Ar lan hen afon Ddyfrdwy ddofn
Eisteddai glan forwynig
Gan ddistaw sibrwd wrth'i hun
"Gadawyd fi yn unig
Heb gar na chyfaill yn y byd
Na chartref chwaith fynd iddo
Drws ty fy nhad sydd wedi'i gloi
'Rwy'n wrthodedig heno."
Mae bys gwaradwydd ar fy ol
Yn nodi fy ngwendidau
A llanw 'mywyd wedi ei droi
A'i gladdu dan y tonnau
Ar allor serch aberthwyd fi
Do, collais fy anrhydedd
A dyna'r achos pa'm yr wyf
Fi heno'n wael fy agwedd.
Ti frithyll bach, sy'n chwareu'n llon
Yn nyfroedd glan yr afon
Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd
A noddfa rhag gelynion
Cei fyw a marw dan y dwr.
Heb neb i dy adnabod
O! na chawn innau fel tydi
Gael marw, a dyna ddarfod.
Ond 'hedeg mae fy meddwl prudd
I fyd sydd eto i ddyfod
A chofia dithau fradwr tost
Rhaid i ti fy nghyfarfod
Mae meddwl am dy eiriau di
A byw, i mi yn ormod
O, afon ddofn, derbynia fi
Caf wely ar dy waelod.
Y boreu trannoeth cafwyd hi
Yn nyfroedd glan yr afon.
A darn o bapur yn ei llaw
Ac arno'r ymadroddion
"Gwnewch immi fedd mewn unig fan
Na chodwch faen na chofnod
I nodi'r fan lle gorwedd llwch
Yr Eneth ga'dd ei Gwrthod."
|